Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 20 Ionawr 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 10.30 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: MeetingTitle |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar AC (Cadeirydd) Jocelyn Davies AC William Graham AC Mike Hedges AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC Sandy Mewies AC Matthew Mortlock Huw Vaughan Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Cymru Gareth Morgan, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Leanne Hatcher (Ail Clerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd Jocelyn Davies, a etholwyd i'r Pwyllgor i fynd yn lle Alun Ffred Jones. Diolchodd y Cadeirydd i Alun Ffred Jones am ei gyfraniadau i'r Pwyllgor.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Nodwyd y papurau.
3 Gwasanaethau awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn: Sesiwn dystiolaeth 3
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth bellach gan James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol Busnes, Menter a Thechnoleg, a Gareth Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyflenwi, ill dau o Lywodraeth Cymru.
3.2 Cytunodd James Price y byddai’n gwneud y canlynol:
· cadarnhau’r dyddiad y penderfynwyd ail-dendro’r Gwasanaeth Awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn; a phryd cafodd Arup ei gomisiynu i gefnogi'r broses ail-dendro;
· rhoi gwybodaeth ynghylch profiad Arup o ran darparu cyngor yn y maes ym Mhrydain a pham mai Arup yn benodol a ddewiswyd;
· rhoi nodyn yn cadarnhau i ba raddau yr oedd y cynnydd o 15% yn archebion gwasanaethau'r llynedd oherwydd y strategaeth farchnata newydd yn uniongyrchol a sut mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu gwerthuso'r strategaeth hon; a
· rhannu adroddiad adolygedig Arup pan fydd ar gael.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Gwasanaethau awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn: Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru.
6 Glastir: Trafod yr ymatebion
6.1 Trafododd y Pwyllgor ymatebion Gareth Jones, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru, ac ymatebion Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr.